Trevor WynJONESDymuna teulu'r diweddar Trevor Wyn Jones, Uwch Llifon, 4 Rhes Grugan, Y Groeslon, ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd dderbyniwyd ganddynt yn eu profedigaeth o golli priod, tad, tad yng nghyfraith, taid, hen daid, brawd, brawd yng nghyfraith ac ewythr annwyl. Diolch am y llu ymweliadau, galwadau ffon a chardiau a dderbyniwyd, ac am y rhoddion hael o £450 tuag at Gronfa Ymchwil Dementia. Diolch i swyddogion Capel y Groes, Penygroes, am gael defnyddio'r Capel i wasanaeth angladd. Diolch i'r Parchedig Iwan Llewelyn Jones am ei wasanaeth teimladwy ac i Mrs. Gwenda Evans, yr organyddes. Diolch i Mrs. Gill Evans, Blodau Bach, Caeathro, am y blodau hardd ac i Pant Du, Penygroes, am y lluniaeth bendigedig wedi'r angladd. Diolch i Huw a Beti Jones, Pontllyfni am eu cyfeillgarwch a'r holl drefniadau yn ystod ac wedi'r cyfnod anodd hwn. Diolch yn fawr iawn i bawb.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Trevor